Croeso i'r Tudalen Cymraeg!

Dyma'r tudalen Cymraeg, ble mae bron popeth yn yr iaith Cymraeg!


(Check page source for translation)

Cymraeg yw iaith fy ngwlad, Cymru! Rydw i wedi bod yn siarad Cymraeg ers i mi fod yn plentyn bach, a roedd Cymraeg yn fy iaith gyntaf am dysgu darllen ac ysgrifennu. Roeddwn i wedi mynd i ysgol gynradd ac ysgol uwchradd a oedd yn dysgu yn Cymraeg a rydw i yn teimlo yn ffodus iawn am hyn. Rydym yn teimlo fel hyn oherwydd dim ond 19% o'r wlad sydd yn siarad y iaith, felly mae llawer o pobl ddim gallu siarad e. Hefyd mae gwersu am oedolion yn drud iawn felly roeddwn i yn ffodus i dysgu y iaith fel plentyn.

Er hyn, roedd yn anodd iawn dysgu pwnciau gwyddoniaeth mewn y Gymraeg!


Caneuon Cymraeg

Mae'n eithaf anodd ffeindio cerddoriath Cymraeg da, am sawl rheswm. Un o'r rhesymau mwyaf i fi yw oherwydd mae Radio Cymru ddim yn dda iawn am creu rhaglennu diddorol i pobl ifanc, oni bai wyt ti wyr yn hoff o cerddoriaeth côr.. Ble mae radio Saesneg yn trio eu gorau i apelio i pobl ifanc, mae Radio Cymru yn cael rhaglennu ble mae dynion hen yn siarad am y rhyfel a menywod canoloed yn siarad am coginio a Mary Berry. Felly mae rhaid mynd i'r wê i ffeindio cerddoriaeth gweddus Cymraeg.

I helpu fi cofio, a hefyd helpu pobl arall ffeindio caneuon Cymraeg, rydw i mynd i creu rhestr o caneuon Cymraeg da neu diddorol, eithaf modern. Mae'n diddorol dysgu am media Cymraeg sydd yn eithaf tebyg i media Saesneg, sydd yn gwahanol iawn i'r cerddoriaeth traddodiadol sydd yn cael ei chwarae ar y radio.

Sebona Fi - Yws Gwynedd Yn llythrennol y gân fwyaf poblogaidd ar hyn o bryd...
Rhedeg i Paris - Anrhefn ("The bad boys of Welsh Rock'n'Roll" hh..)
Goleuadau Llundain - Daniel Lloyd a Mr Pinc Hefyd, DistantDreamer93 yw'r sianel orau ar gyfer dysgwyr Cymraeg canolradd, aeth i o'r crap i fod yn rhugl mewn 4 mis o wylio eu fideos geiriau.
Gwenllian - Calfari (Emos lol)
Paid A Bod Ofn - Eden Dyfalu fy nhad fod y gân + fideo hon o ddechrau'r 1980au, mewn gwirionedd yn 1996...
Shampw - Bando 1982! Band rhyfedd ...
Dihoeni - Sŵnami Band Cymraeg cyntaf oedd i wedi darganfod!
Mynd a Dod - Sŵnami ---
Cân y Tân - Y Bandana Band dda!
Siwgr Candi Mêl - Y Bandana ---
Suddo - Yr Eira Mae bandiau Indie yn dal yn fyw ac yn dda yng Nghymru
Ble'r Aeth Y Haul - Yr Ods Caru y can hyn, mond wedi ei ffeindio rhyw wythnos yn ôl.

Nôl Gatref